Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol | External Affairs and Additional Legislation Committee

Y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd | Implications for Wales of Britain exiting the European Union

IOB 28

Ymateb gan Prifysgol Caerdydd

Evidence from Cardiff University

Cyflwyniad

1.       Rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y goblygiadau i Gymru wrth adael yr UE. Fel sefydliad addysg uwch yng Nghymru, mae gan Brifysgol Caerdydd rôl unigryw ym mywyd deallusol, diwylliannol ac economaidd Cymru, y DU a’r byd. Rydym yn croesawu unrhyw gyfleoedd i Brifysgol Caerdydd gyfrannu at y genhadaeth hon.

2.       Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i lywio'r cwrs gorau ar gyfer Cymru a gweddill y wlad wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd (UE). Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgîl y bleidlais i adael yr UE, rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i gyfleoedd yn y cyd-destun rhyngwladol newydd. Rydym am barhau i ffurfio mentrau cydweithredol cynhyrchiol ledled Ewrop a gweddill y byd.

3.       Mae ein gwaith ymchwil yn mynd i'r afael â heriau o arwyddocâd byd-eang tra bod ein myfyrwyr yn cael profiad myfyrwyr sydd ymhlith y gorau yn y wlad. Dengys dadansoddiad diweddar a gynhyrchwyd ar gyfer y Brifysgol gan London Economics ein bod yn chwarae rôl bwysig yn ein cymunedau yng Nghymru a'r DU yn ehangach, gan gyfrannu £2.92bn bob blwyddyn i'r economi a chynhyrchu dros £6 am bob £1 a wariwn. Awgrymodd yr un adroddiad annibynnol tra rydym yn darparu dros 5,500 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, mae gweithgareddau’r Brifysgol yn cefnogi 5,750 o swyddi eraill ledled y DU. Dymunwn fanteisio ar y cryfderau hyn i gefnogi’r polisi Brexit sy'n dod i'r amlwg yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

4.       Rydym yn croesawu cadarnhad diweddar y Llywodraeth y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n cofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18 yn gallu cael cefnogaeth myfyrwyr y DU drwy gydol eu hastudiaethau. Byddem yn annog Llywodraethau Cymru a’r DU i wneud ymrwymiad tebyg mewn perthynas â myfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio yn 2018/19. Rydym hefyd yn croesawu sicrwydd diweddar Canghellor y Trysorlys ar brosiectau Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol a’r gwaith y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn ei wneud i sicrhau arian. Byddai unrhyw sicrwydd pellach gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn helpu i gynyddu mwy fyth yr hyder mewn buddsoddi'n barhaus.

5.       Mae yna hefyd oblygiadau datganoledig ar gyfer Prifysgol Caerdydd a Brexit.  Bydd y Brifysgol yn parhau i ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.  Byddem yn annog Llywodraeth y DU i ystyried yn ofalus sut y gellir rheolir newidiadau sy'n deillio o Brexit orau fel y gall y Brifysgol – ynghyd â darparwyr addysg uwch eraill yng Nghymru – chwarae rôl gefnogol lawn.

Beth ddylai fod prif flaenoriaeth Cymru cyn y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cychwyn ar Erthygl 50 (sy'n cychwyn y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd)?

6.       Fel y nodwyd yn y cyflwyniad, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau bod Brexit yn gweithio ar gyfer Cymru a'r DU. Rydym am barhau i ffurfio mentrau cydweithredol cynhyrchiol ledled Ewrop a gweddill y byd.

7.       Byddem yn dadlau y dylai unrhyw gytundeb rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol fodloni’r canlynol:

·         Caniatáu i Brifysgolion gael mynediad at ffrydiau ariannu a rhwydweithiau Ewropeaidd (gan gynnwys Horizon 2020), neu os nad yw hynny’n bosibl, dylid creu cronfa ymchwil rhyngwladol i ganiatáu cydweithio ar ymchwil fyd-eang;

·         Rhoi sicrwydd y bydd pob aelod o staff presennol o’r UE yn gallu aros yn y DU ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chaniatáu i Brifysgolion recriwtio'r staff gorau i weithio yma;

·         Rhoi sicrwydd y bydd unrhyw newidiadau i statws mewnfudo myfyrwyr o’r UE, gofynion ffioedd dysgu a mynediad at fenthyciadau i fyfyrwyr ond yn gymwys i fyfyrwyr sy'n dod i mewn o’r UE sy’n dechrau ar gyrsiau sy'n dechrau ar ôl i’r DU adael yr UE. Byddem hefyd yn disgwyl, ar ôl Brexit, y bydd prifysgolion yn gallu recriwtio’r myfyrwyr disgleiriaf a'r gorau o ar draws yr UE a'r byd i ddod i astudio yma.

Mynediad at arian ymchwil Ewropeaidd

8.       Mae angen cynnal gwariant cyffredinol ar ymchwil a datblygu ar y lefelau presennol o leiaf i ddiogelu adnoddau ymchwil a gwyddoniaeth yn y DU ac i gynnal safle’r DU fel arweinydd byd yn y maes.  Fel blaenoriaeth, dylai Llywodraeth y DU sicrhau mynediad llawn at arian y Rhaglen Fframwaith. Fel arall, byddai angen darparu hyn drwy gynyddu’r gyllideb wyddoniaeth ac ymchwil genedlaethol hyd at yr hyn sy’n cyfateb i'r swm a sicrhawyd o Horizon 2020, gan gydnabod bod y DU yn fuddiolwr net o raglenni ymchwil yr UE.

9.       Os na ellir negodi mynediad digonol at gyllid, neu os na ellir canfod cyllid hirdymor arall, yna collir ffrwd ariannu fawr ac unigryw a bydd y rhai sy'n elwa o’r gwaith ymchwil hwnnw o dan anfantais.  Cyfanswm gwerth yr incwm ymchwil yn y dyfodol i Brifysgol Caerdydd o brosiectau byw FP7 a Horizon 2020 a ddyfarnwyd hyd at 31 Gorffennaf 2016 yw £23.5m ac mae ceisiadau pellach i H2020 ar y gweill gwerth £15.7m. Mae prosiectau Cronfa Strwythurol Ewrop yn werth £23.6m ychwanegol, am mae gwerth £35.2m o brosiectau eraill yn cael eu datblygu. Un sydd wedi derbyn llawer iawn o’r arian hwn yw Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), sydd ar fin dod yn un o brif gyfleusterau delweddu’r ymennydd Ewrop. Mae’r ganolfan yn hollbwysig yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, gan felly ddatblygu triniaethau gwell.

10.   Yn 2014-15, roedd 16% o’n myfyrwyr israddedig Cartref yn symudol yn rhyngwladol. Bu llawer o’r rhain yn cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus +, a oedd yn helpu i wella datblygiad personol myfyrwyr, eu dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, eu galluoedd ieithyddol yn ogystal â datblygiad llawer o'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan raddedigion. Credwn fod Brexit yn cynnig cyfle i greu rhaglen symudedd allanol rhyngwladol newydd a allai efelychu elfennau mwyaf llwyddiannus y rhaglen Erasmus +. Byddai hyn yn caniatáu i brifysgolion barhau gyda chydweithredu gwerthfawr â phartneriaid Ewropeaidd a chefnogi cyfnodau gorfodol dramor ar gyfer myfyrwyr ieithoedd modern, yn ogystal â chefnogi’r broses o ryngwladoli addysg yng Nghymru a'r DU ymhellach. Efallai y byddai'n werth ystyried creu rhaglen symudedd penodol i Gymru fel rhan o'r trafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU.

11.   Mae Prifysgol Caerdydd o’r farn y dylai Llywodraeth y DU weithio i sicrhau cytundebau gyda'r UE er mwyn:

·                     Cael mynediad at arian yr UE yn y dyfodol a gweithgareddau cydweithredol o dan Horizon 2020, yn arbennig grantiau ERC, y Sefydliad Arloesedd a Thechnoleg Ewropeaidd (EIT) a Marie Skłodowska-Curie;

·                     Sicrhau mynediad parhaus at seilwaith ymchwil;

·                     Darganfod cyfleoedd ar gyfer Fframwaith Rhaglen Symudedd Allanol Rhyngwladol newydd, gan adeiladu ar elfennau gorau Erasmus +.

Statws myfyrwyr a staff o’r UE

12.   Mae Prifysgol Caerdydd yn gymuned ryngwladol sy’n gwerthfawrogi’r myfyrwyr a’r staff sy'n dod o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio gyda ni Mae 17% o'n staff academaidd a 5% o'n myfyrwyr yn dod o’r UE (mae 10% o'n myfyrwyr ymchwil dod o’r UE). Mae'r amrywiaeth hon yn meithrin creadigrwydd ac arloesed, ac mae'n rhan hollbwysig o'n diwylliant.

13.   Hoffem weithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i roi mwy o sicrwydd i'n staff a'n myfyrwyr o'r UE. Y prif feysydd y ceir ansicrwydd yn eu cylch yw eglurder ynglŷn â chymorth ariannol a ffioedd i fyfyrwyr o’r UE, ac eglurder ynglŷn â rheolau mewnfudo i fyfyrwyr a staff.

14.   Er ein bod yn croesawu'r cadarnhad y bydd myfyrwyr o’r UE sy’n astudio yma ar hyn o bryd (gan gynnwys carfannau 2016-17 a 2017/18) yn derbyn cymorth i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, mae'n bosibl y caiff hyn ei wrthbwyso gan y canfyddiad bod y DU yn ddigroeso. Gallai hyn gael effaith ar fyfyrwyr sy’n bwriadu dod eleni, ac ar recriwtio yn y dyfodol. Byddem o blaid bod myfyrwyr o’r UE hefyd yn cael sicrwydd tebyg ynghylch statws ffioedd dysgu a mynediad at gymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy'n dechrau cyrsiau yn 2018/19. Credwn y bydd hyn yn cyfrannu rywfaint at sicrhau myfyrwyr o’r UE fod croeso iddynt yng Nghymru a'r DU ac y cânt eu gwerthfawrogi.

15.   Mae risg hefyd y bydd staff o’r UE (a staff o’r DU â gwŷr a gwragedd o’r UE) yn ceisio am waith y tu allan i'r DU, os ydynt yn teimlo nad oes croeso iddynt mwyach neu os ydynt yn ansicr o’u hawl i aros. Mae Prifysgol Caerdydd am weld yr ymrwymiad cynharaf posibl gan Lywodraeth y DU bod gan ddinasyddion o’r UE sydd eisoes yn byw yn y DU yr hawl i aros. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau Cymru a’r DU yn cyfleu’n glir pa mor werthfawr yw ymchwilwyr a myfyrwyr o’r UE i’r wlad a rhoi sicrwydd y bydd Caerdydd, Cymru a'r Deyrnas Unedig yn parhau i gynnig amgylchedd croesawgar ar eu cyfer.

Bargeinion Dinas-Ranbarth ar gyfer Cymru

16.   Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o Fargen Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cytundeb £1.2bn gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg awdurdod lleol de-ddwyrain Cymru sy'n ceisio gwella cynhyrchiant, ysgogi arloesedd a chefnogi twf swyddi ledled y rhanbarth.

17.   Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £50m a fydd yn datblygu technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd y dyfodol. Dyma ran o fuddsoddiad Llywodraeth y DU yn y Fargen Ddinesig.  Bydd y Brifysgol a chwmni IQE yng Nghaerdydd, sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn arwain ‘catapwlt’ cenedlaethol y DU.

18.   Fodd bynnag, disgwylir y bydd y Brifysgol chwarae rhan llawer mwy blaenllaw. Mae’r Fargen Ddinesig am fuddsoddi mewn meysydd eraill y mae'r Brifysgol yn arbenigo ynddynt hefyd megis:

·         Datblygu meddalwedd a diogelwch seiber

·         Arloesedd mewn gwasanaeth cyhoeddus

·         Ynni ac adnoddau

·         Datblygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

19.   Mae'r Brifysgol hefyd yn credu y dylai ardaloedd y tu hwnt i Gaerdydd, fel Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, elwa o gytundeb tebyg.  Nod y cynnig Arfordir Rhyngrwyd, fel sydd eisoes wedi'i gyflwyno i'r Trysorlys gan Fwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yw troi’r rhanbarth cyfan yn uwch hwb digidol er mwyn trawsnewid economi’r rhanbarthol, dyfodol ynni a’r ffordd y caiff gofal iechyd a chymdeithasol ei ddarparu yn y dyfodol. Credwn fod potensial diddiwedd ar gael ar gyfer yr ardal, a Chymru’n ehangach, i fod yn arweinwyr mewn technolegau newydd megis cysylltedd diwifr 5G a Morlyn Llanw Bae Abertawe.

20.   Byddem yn croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a’r DU ar statws Bargen Dinesig Caerdydd yn ogystal â Bargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ar ôl Brexit, ar y cyfle cyntaf.

A allwch roi enghreifftiau o le y gallai dull gweithredu arfaethedig y DU o drosglwyddo’r acquis communautaire (y corff o gyfraith Ewropeaidd), drwy'r Bil Diddymu Mawr arfaethedig, i gyfraith ddomestig gael goblygiadau penodol ar gyfer Cymru?

21.   Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i sicrhau bod y broses Brexit yn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer Cymru a'r DU. Disgwylir y bydd y Bil Diddymu Mawr yn cael ei gyflwyno yn sesiwn nesaf y Senedd ar ôl Araith y Frenhines yn 2017. Bydd y Bil, pan ddaw'n Ddeddf, yn dirymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, sy'n golygu bod cyfraith yr UE yn weithredol ar unwaith yn y DU. Bydd hyn yn rhoi’r pŵer Senedd y DU drosglwyddo rhannau o ddeddfwriaeth yr UE i gyfraith y DU ac i gael gwared ag elfennau nid yw am eu cadw.

22.   Er ein bod yn gwybod bod y Bil Diddymu Mawr yn debygol o gael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf, ac yn ôl pob tebyg (ar hyn o bryd) y bydd yn digwydd ochr yn ochr â phroses negodi Erthygl 50, mae Prifysgol Caerdydd yn credu bod ansicrwydd sylweddol o hyd o ran ar ba ffurf y bydd hyn oll. Fel y cyfryw, mae'n anodd rhoi sylwadau manwl ar hyn o bryd ar y goblygiadau y gallai’r Bil hwn ei gael ar Gymru.

23.   Er gwaethaf hyn, credwn y bydd goblygiadau datganoledig i Brifysgol Caerdydd a Brexit.  Bydd y Brifysgol yn parhau i ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.  Byddem yn annog Llywodraethau Cymru a’r DU i ystyried yn ofalus sut y gellir rheolir newidiadau sy'n deillio o Brexit (boed hynny o’r Bil Diddymu Mawr neu drafodaethau Erthygl 50) orau fel y gall y Brifysgol – ynghyd â darparwyr addysg uwch eraill yng Nghymru – chwarae rôl gefnogol lawn.